Y diffiniad o albym
Rhaid i albym gynnwys deunydd sydd heb ei ryddhau o’r blaen. Nid yw albym wedi’i ail-ryddhau, casgliadau aml-artist, casgliadau ‘Goreuon’ nac albyms byw (sy’n cynnwys deunydd a ryddhawyd eisoes yn bennaf) yn cymwys. Rhaid i albym gynnwys 6 neu fwy o draciau a/neu fod dros 30 munud o hyd. Mae pob genre o gerddoriaeth yn gymwys ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig.
Y diffiniad o ryddhau
Rhaid bod albym (fel y’i diffinnir uchod) ar gael i’r cyhoedd ei brynu neu ei ffrydio yng Nghymru am y tro cyntaf yn ystod y cyfnod cymhwyso (mae cyfnod cymhwyso Gwobr Gerddoriaeth Gymreig ar gyfer albyms a ryddhawyd ar neu rhwng 1 Awst 2020 a 31 Gorffennaf) drwy unrhyw un o’r ffyrdd canlynol: unrhyw fanwerthwr cerddoriaeth ar y stryd fawr; manwerthwr digidol, label recordio neu wefan artistiaid (gan gynnwys Bandcamp, cyfryngau cymdeithasol ac ati). Bydd lawrlwythiadau am ddim (gyda chaniatâd penodol yr artist) hefyd yn gymwys.
Y diffiniad o artist Cymreig
At ddibenion y wobr hon, ystyrir bod albwm wedi’i recordio gan ‘Artist Cymreig’: os y cafodd yr artist ei eni yng Nghymru; os y cafodd o leiaf 50% o aelodau craidd y band eu geni yng Nghymru (ni fydd cerddorion sesiwn yn cael eu hystyried); os yw artist neu fand, waeth beth fo’u cenedligrwydd, wedi eu lleoli’n greadigol yng Nghymru am y 3 blynedd diwethaf. DS. Mewn rhai achosion e.e. albyms clasurol, gall cyfansoddwyr yn ogystal â pherfformwyr fodloni’r amodau cymhwyso.
Tegwch a chynhwysedd
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y ceisiadau ar gyfer Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn cael eu hasesu ar sail eu teilyngdod artistig a’u creadigrwydd yn unig. Rydym yn cynnal egwyddorion tegwch a chynhwysiant.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir, waeth beth fo’u hil, ethnigrwydd, rhywedd, oedran, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, neu unrhyw nodwedd arall. Ni oddefir unrhyw fath o wahaniaethu neu ragfarn yn y broses o gyflwyno neu ddewis ceisiadau neu mewn unrhyw weithgareddau cysylltiedig.