Mae grŵp o dros 100 o Reithwyr y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn trafod recordiau sydd wedi’u rhyddhau drwy gydol y flwyddyn mewn gofod ar-lein, gan helpu i ddarganfod neu hyrwyddo albyms sy’n gymwys ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig. Mae’r rheithwyr yn cynnwys newyddiadurwyr o’r cyfryngau ar-lein, darlledu a radio, manwerthwyr cerddoriaeth, hyrwyddwyr, lleoliadau cerddoriaeth fyw, rheolwyr, peirianwyr sain, swyddogion marchnata a llawer o rai eraill sy’n gweithio ym myd cerddoriaeth yng Nghymru, neu sy’n Gymry yn gweithio yn y maes cerddoriaeth y tu allan i Gymru. Gall unrhyw un sy’n bodloni’r meini prawf hynny fod yn rheithor – gallwch gysylltu i ymuno. Ar ôl coladu’r rhestr hir o albyms cymwys, mae pob un o’r rheithwyr wedyn yn pleidleisio dros eu hoff bump albym, gan eu graddio yn nhrefn eu dewis. Y pleidleisiau hyn wedyn sy’n pennu Rhestr Fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig.
Yna, bydd grŵp bach o feirniaid yn cwrdd yn bersonol i drafod y Rhestr Fer a dewis yr enillydd yn y pen draw.