Skip to content

Rhestr Hir 2024

Loading ...

Amodau Cymhwyso

  • Rhaid i albym gynnwys deunydd sydd heb ei ryddhau o’r blaen. Nid yw albym wedi’i ail-ryddhau, casgliadau aml-artist, casgliadau ‘Goreuon’ nac albyms byw (sy’n cynnwys deunydd a ryddhawyd eisoes yn bennaf) yn cymwys. Rhaid i albym gynnwys 6 neu fwy o draciau a/neu fod dros 30 munud o hyd. Mae pob genre o gerddoriaeth yn gymwys ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig.

  • Rhaid bod albym (fel y’i diffinnir uchod) ar gael i’r cyhoedd ei brynu neu ei ffrydio yng Nghymru am y tro cyntaf yn ystod y cyfnod cymhwyso (mae cyfnod cymhwyso Gwobr Gerddoriaeth Gymreig ar gyfer albyms a ryddhawyd ar neu rhwng 1 Awst a 31 Gorffennaf) drwy unrhyw un o’r ffyrdd canlynol: unrhyw fanwerthwr cerddoriaeth ar y stryd fawr; manwerthwr digidol, label recordio neu wefan artistiaid (gan gynnwys Bandcamp, cyfryngau cymdeithasol ac ati). Bydd lawrlwythiadau am ddim (gyda chaniatâd penodol yr artist) hefyd yn gymwys.

  • At ddibenion y wobr hon, ystyrir bod albwm wedi’i recordio gan ‘Artist Cymreig’: os y cafodd yr artist ei eni yng Nghymru; os y cafodd o leiaf 50% o aelodau craidd y band eu geni yng Nghymru (ni fydd cerddorion sesiwn yn cael eu hystyried); os yw artist neu fand, waeth beth fo’u cenedligrwydd, wedi eu lleoli’n greadigol yng Nghymru am y 3 blynedd diwethaf. DS. Mewn rhai achosion e.e. albyms clasurol, gall cyfansoddwyr yn ogystal â pherfformwyr fodloni’r amodau cymhwyso.