At ddibenion y wobr hon, ystyrir bod albwm wedi’i recordio gan ‘Artist Cymreig’ pan fydd un neu fwy o’r amodau canlynol yn cael eu bodloni: os y cafodd yr artist ei eni yng Nghymru; os y cafodd o leiaf 50% o aelodau craidd y band eu geni yng Nghymru (ni fydd cerddorion sesiwn yn cael eu hystyried); os yw artist neu fand, waeth beth fo’u cenedligrwydd, wedi eu lleoli’n greadigol yng Nghymru am y 3 blynedd diwethaf. DS. Mewn rhai achosion e.e. albyms clasurol, gall cyfansoddwyr yn ogystal â pherfformwyr fodloni’r amodau cymhwyso.